#

Y Pwyllgor Deisebau | 26 Mehefin 2018
 Petitions Committee | 26 June 2018
 
 
 ,Gwneud TGAU Cymraeg yn orfodol ym mhob ysgol yng Nghymru 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-888

Teitl y ddeiseb: Gwneud TGAU Cymraeg yn orfodol ym mhob ysgol yng Nghymru

Testun y ddeiseb: Ar hyn o bryd, mae'r Iaith Gymraeg yn orfodol naill ai fel iaith gyntaf neu ail iaith ym mhob un o ysgolion y wladwriaeth yng Nghymru. Fodd bynnag, nid yw hyn yn gymwys i ysgolion preifat, nad ydynt yn dilyn y cwricwlwm cenedlaethol. Mewn sawl achos, mae disgyblion yn gadael ysgolion preifat yn methu â siarad gair o Gymraeg. Os ydym am wneud cynnydd gyda'n hiaith, ac am gyrraedd targed y llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, rhaid inni roi'r cyfle i bob plentyn yng Nghymru ddysgu. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i:- wneud TGAU Cymraeg Ail Iaith yn orfodol ym mhob ysgol yng Nghymru yn ôl y gyfraith ar gyfer y cwricwlwm newydd yn 2022.

Y cefndir

Y Cwricwlwm Cenedlaethol

Mae'r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru wedi'i sefydlu yn Neddf Addysg 2002. Mae hyn yn nodi mai dim ond mewn ysgolion a gynhelir y mae'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn berthnasol.  Mae adran 97 yn diffinio 'ysgol a gynhelir' fel:

(a) unrhyw ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol yng Nghymru, neu

(b) ac eithrio pan nodir fel arall, unrhyw ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig arbennig a gynhelir gan awdurdod addysg lleol yng Nghymru ac nad yw wedi'i sefydlu mewn ysbyty;

Cymraeg yn y Cwricwlwm Cenedlaethol

Mae adrannau 105 a 106 o Ddeddf 2002 yn gwneud y Gymraeg yn orfodol yn y Cwricwlwm Cenedlaethol mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg hyd ddiwedd Cyfnod Allweddol 4. Fel y nodwyd uchod, dim ond mewn ysgolion a gynhelir y mae'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn berthnasol.

Yng Nghyfnod Allweddol 4, mae ysgolion yn cofrestru disgyblion i sefyll arholiad Cymraeg iaith gyntaf neu ail iaith TGAU, neu gallant benderfynu peidio â’u cofrestru am unrhyw gymhwyster o gwbl. Er bod Cymraeg yn bwnc gorfodol yn y cwricwlwm cenedlaethol, nid yw'n orfodol cofrestru dysgwyr i sefyll arholiad TGAU nac unrhyw gymhwyster arall. Er ei bod yn orfodol astudio Cymraeg iaith gyntaf neu ail iaith fel pwnc, yr ysgolion sy'n penderfynu ynghylch cymwysterau penodol, a gwneir y penderfyniadau hynny’n lleol. Fodd bynnag, mae'r Gorchymyn Cymraeg Ail Iaith (PDF 2.21MB) (Gorffennaf 2015) yn datgan y dylid sicrhau bod dulliau asesu ac achredu priodol ar gael i bob dysgwr.

Ysgolion annibynnol

Rhaid i bob ysgol annibynnol yng Nghymru gofrestru â Llywodraeth Cymru. Mae Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2003, a wnaed o dan Ddeddf Addysg 2002, yn nodi’r safonau y mae'n rhaid i bob ysgol annibynnol eu bodloni er mwyn cofrestru ac er mwyn parhau i fod yn gofrestredig. Mae'r rheoliadau hyn yn cynnwys ansawdd yr addysg y mae’r ysgol yn ei darparu.

Mae paragraff 1(2) o'r Atodlen yn nodi nifer o feysydd (yn hytrach na phynciau) y mae'n rhaid i ysgolion annibynnol eu cynnwys yn eu cwricwlwm. Yn ôl Canllawiau Llywodraeth Cymru [PDF 469KB], ni fwriedir i’r rheoliadau ragnodi’r modd y mae ysgol yn trefnu ei chwricwlwm ond dylai ysgolion sicrhau bod disgyblion yn cael profiadau yn y meysydd a nodir yn llythyr y Gweinidog Addysg at y Pwyllgor. Un o'r rhain yw 'ieithyddiaeth'. Rhaid i gynlluniau gwaith a chynlluniau eraill ddangos sut mae pob maes yn cael ei gynnwys yng nghwricwlwm yr ysgol. Yng nghyd-destun 'ieithyddiaeth', mae'r cyfarwyddyd yn nodi’r canlynol:

mae'r maes hwn yn ymwneud â datblygu sgiliau cyfathrebu disgyblion a chynyddu eu meistrolaeth o iaith drwy wrando, siarad, darllen ac ysgrifennu. Ym mhob ysgol rhaid cael gwersi Cymraeg a Saesneg  ysgrifenedig a llafar. Bydd llawer o ysgolion hefyd yn dysgu ieithoedd eraill.

Y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd

Grŵp Adolygu Cymraeg ail iaith

Ar 17 Gorffennaf 2012, cyhoeddodd Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd, y byddai'n sefydlu Grŵp i adolygu Cymraeg ail iaith, gan nodi bod safonau a chyrhaeddiad ym maes addysg Gymraeg ail iaith yn is nag ydyw mewn pynciau eraill. Gofynnwyd i’r Grŵp, a gadeiriwyd gan yr Athro Sioned Davies, ystyried sut y dylid newid  y modd y caiff Cymraeg ail iaith ei haddysgu a’i hasesu yng Nghyfnodau Sylfaenol 3 a 4 i alluogi rhagor o ddysgwyr i ddefnyddio'r iaith yn eu gwaith ac yn y gymuned yn y dyfodol.

Cyhoeddodd y Grŵp Adolygu ei adroddiad, sef Un iaith i bawb: Adolygu Cymraeg ail iaith yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4 [PDF 191KB] (Medi 2013) gan wneud nifer o argymhellion, gan gynnwys y dylai Cymraeg ail iaith barhau i fod yn bwnc statudol yn y Cwricwlwm Cenedlaethol a pharhau i fod yn bwnc gorfodol i bob disgybl yng Nghymru tan ddiwedd Cyfnod Allweddol 4. Argymhelliad arall oedd y dylai Llywodraeth Cymru wneud y canlynol:

adolygu’r rhaglen astudio Cymraeg, dros gyfnod o dair i bum mlynedd,  a defnyddio’r Fframwaith Llythrennedd Cenedlaethol ar gyfer Cymraeg fel sylfaen ar gyfer cwricwlwm diwygiedig gan gynnwys:

§    un continwwm o ddysgu Cymraeg, ynghyd â disgwyliadau clir ar gyfer disgyblion sy’n dysgu Cymraeg mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg, cyfrwng Cymraeg a lleoliadau dwyieithog; a

§    chanllawiau, deunyddiau cefnogi a hyfforddiant. O ganlyniad byddai’r elfen Cymraeg ail iaith yn y rhaglen astudio Cymraeg yn cael ei disodli ynghyd â’r term Cymraeg ail iaith.

Y cwricwlwm newydd i Gymru

Cafodd argymhellion yr adroddiad mewn perthynas â'r cwricwlwm eu hystyried gan yr Athro Graham Donaldson yn ei adolygiad o'r cwricwlwm cenedlaethol, Dyfodol Llwyddiannus [PDF 2MB] (Chwefror 2015). Argymhellodd yr Athro Donaldson hefyd y dylai'r Gymraeg barhau i fod yn orfodol hyd at 16 oed ac y dylai ysgolion hefyd ganolbwyntio o'r newydd ar ddysgu Cymraeg yn bennaf fel cyfrwng cyfathrebu, yn enwedig dealltwriaeth a chyfathrebu ar lafar.

Ar 28 Ionawr 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Cenhadaeth Genedlaethol: Cwricwlwm Gweddnewidiol Cynigion am fframwaith deddfwriaethol newydd [PDF 2MB]. Roedd yr ymgynghoriad yn ceisio barn am gynigion i ddeddfu i weithredu trefniadau’r cwricwlwm newydd yn hytrach na chynnwys manwl y cwricwlwm newydd.  Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 25 Mawrth 2019. Mae'r ymgynghoriad yn nodi mai'r bwriad yw cynnwys darpariaeth i'r Gymraeg fod yn elfen orfodol o gwricwlwm newydd Cymru a hynny i bob dysgwr o oedran ysgol gorfodol (3-16 oed).  Mae’n nodi:

3.98 Bydd gofyniad ar gyfer Cymraeg, Saesneg ac Ieithoedd Rhyngwladol yn cael ei nodi ym Maes Dysgu a Phrofiad  Ieithoedd, Llythrennedd a Rhifedd ar gyfer pob dysgwr. Ar hyn o bryd, bydd cynnwys arfaethedig Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu (gan gynnwys yr elfennau y cyfeirir atynt ar hyn o bryd fel  Datganiadau o'r Hyn sy'n Bwysig;  Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiadau, a'r Deilliannau Cyflawni) yn cael ei nodi mewn canllawiau statudol a bydd yn seiliedig ar un continwwm ar gyfer dysgu ieithoedd.  

3.99 O fewn y Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd,  Llythrennedd a Chyfathrebu newydd, bydd yr holl ddysgwr yn dilyn yr un cwricwlwm ar gyfer dysgu Cymraeg ar hyd y continwwm, gan ddileu'r termau Cymraeg iaith gyntaf ac ail iaith a dileu'r rhaglenni astudio cysylltiedig.  Mae'r Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu wedi ei lunio i gydnabod bod cyflymder y dysgu yn amrywio mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion cyfrwng Saesneg.

Bydd Cwricwlwm newydd Cymru yn ofyniad statudol mewn ysgolion a gynhelir yn unig.

Cymraeg 2050:

Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr Cymraeg [PDF 3MB] (2017) yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer hyrwyddo a hwyluso defnyddio'r Gymraeg.  Mae'r strategaeth yn cynnwys nifer o dargedau mewn perthynas ag addysg gan gynnwys:

§    Cynyddu cyfran y dysgwyr sy'n gadael yr ysgol yn gallu siarad Cymraeg;

§    Cynyddu cyfran y dysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg.

§    Cynyddu nifer yr athrawon sy'n addysgu'r Gymraeg neu'n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.